Ymarfer
Ffitrwydd yn cyrraedd lefel newydd yn y Nova, campfa ddiweddaraf a mwyaf Hamdden Sir Ddinbych. Bydd gan aelodau fynediad i 60 o orsafoedd Technogym o’r radd flaenaf, ystod gyffrous o ddosbarthiadau ffitrwydd, a’u cynllun ffitrwydd personol eu hunain – i gyd gyda chefnogaeth tîm ffitrwydd arbennig wrth law i’ch helpu i gyflawni eich nodau.
Mae ein pecynnau aelodaeth hyblyg yn cynrychioli gwerth rhagorol am arian ac yn rhoi mynediad i’n holl aelodau at y canlynol:
- Mynediad i bob un o’r 8 cyfleuster hamdden
- Offer sy’n arwain y diwydiant, wedi’i gysylltu’n llawn
- Ardaloedd hyfforddi swyddogaethol a chyngor
- Parthau hyfforddi cryfder pwrpasol
- Sesiynau nofio cyhoeddus ar gael bob dydd
- Dros 350 o ddosbarthiadau egniol bob mis
- Opsiynau archebu ar-lein uwch
- Cefnogaeth am ddim gyda chynlluniau gweithgaredd trwy ein Rhaglen Fy Llwyddiant
- Parcio am ddim yn ein holl ganolfannau hamdden*
- Dadansoddiad cyfansoddiad corff Tanita am ddim
- Cymorth a Chyngor gan hyfforddwyr cymwys
- Ap MyWellness am ddim gyda sesiynau ymarfer yn y gampfa a chartref, ac olrhain ymarfer corff
- Gostyngiadau cardiau hamdden
- Gostyngiadau yn ein lleoliadau bwyd a diod
Gall aelodau sy’n defnyddio Clwb Nova wneud cais am drwydded parcio flynyddol, rithiol, i’w defnyddio yn unrhyw un o’r tri maes parcio yn ardal Nova. (Maes Parcio Beach Road East, Maes Parcio Beach Road West a Maes Parcio Gorllewin Nova) Gellir derbyn eich trwydded gan ein Tîm Gwasanaethau Gwesteion ar eich ymweliad cyntaf â’r Clwb ar ôl ymuno, a bydd yn parhau’n weithredol am hyd eich aelodaeth. Bydd canslo eich aelodaeth yn dileu unrhyw drwyddedau ar unwaith. Mae’r trwyddedau rhithiol yn nodi dyddiad y daw i ben, a chyfrifoldeb y cwsmer yw hysbysu’r Gwasanaethau Gwesteion pan fydd angen adnewyddu eich trwydded. Pan fydd y cais i adnewyddu wedi cael ei brosesu, byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost. Os na fyddwch yn derbyn yr e-bost, cysylltwch â Gwasanaethau Gwesteion Nova ar unwaith. Rheolir y meysydd parcio gan CSDd ac mae angen i holl ddefnyddwyr gael trwydded ddilys neu docyn parcio. Nid oes gan Nova unrhyw awdurdodaeth dros y meysydd parcio neu’r tocynnau. Os cyflwynir dirwy, bydd angen i gwsmeriaid gysylltu â WPPP (Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru) yn uniongyrchol os ydynt yn dymuno apelio yn ei erbyn. Nid oes gan y tîm yn Nova unrhyw reolaeth dros y broses hon ac ni allent ymyrryd.
Mae’r ffordd rydych chi’n ymarfer yn newid. Gyda’r cyfleusterau diweddaraf, mae hwn yn brofiad ffitrwydd heb ei ail!
Parth Cardio Byw Cyffrous
Ystod eang o beiriannau cardio o’r radd flaenaf gyda chysylltiad Bluetooth â’ch Ap MyWellness. Gwyliwch eich hoff gyfres Netflix neu gwrandewch ar eich hoff sianel gerddoriaeth wrth ymarfer.
Parth Cryfder Pur
Offer llawn ar gyfer hyfforddiant cryfder sylfaenol.
Parth Swyddogaethol
Rig swyddogaethol wedi’i theilwra ar gyfer hyfforddiant unigol neu grŵp gyda hyfforddiant TRX Suspension a 24 darn o ategolion gan gynnwys clychau tegell, peli slam, peli wal a blychau plyo.
Hyfforddiant craidd ac Ardal Ymestyn
Gofod pwrpasol ar gyfer ymestyn, hyfforddiant craidd a gwaith llawr.
Oriel






