Croeso
Croeso i Nova, un o atyniadau dan do mwyaf Gogledd Ddwyrain Cymru i ymwelwyr.
P’un a ydych yn ymweld â’r Nova ar gyfer ffitrwydd, nofio, chwarae, parti, dathliad neu i fwynhau golygfeydd trawiadol wrth ymlacio yn ein bwyty, mae gan y Nova rywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau:
- Ystafell ffitrwydd o’r radd flaenaf gyda 60 gorsaf
- Ardal chwarae meddal antur dan do ar thema’r traeth
- Caffi
- Bwyty â golygfa o’r môr
- Stiwdios aml-bwrpas / ystafelloedd digwyddiadau
- Pwll nofio 25m 4 lôn a phwll sblasio bychan.